Addysg Ddibynadwy i Oedolion yng Nghymru
Rydym yn frwdfrydig i'ch helpu i wella eich bywyd trwy ddysgu. Dyna pam y byddwn yn sicrhau ein bod yn darparu’r cyrsiau addysg oedolion mwyaf priodol y mae’r galw mwyaf amdanynt ledled Cymru. Rydych yn bwysig i ni yma yn Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Mae ein tiwtoriaid yn bobl ddibynadwy a chyfeillgar sy’n frwdfrydig ynghylch darparu amgylchedd dysgu agored.
Tiwtoriaid Cyfeillgar ac Agos-atoch
Yma yn Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, rydym yn gwybod y gall hi fod yn anoddach i oedolion ddychwelyd i ddysgu, a dyna pam byddwn yn sicrhau bod pob dysgwr unigol yn bwysig i’n tiwtoriaid, yn ogystal â’r dosbarth ehangach.
Mae pob un o’n tiwtoriaid yn gyfeillgar, yn agos-atoch ac yn broffesiynol, ac yn ogystal â gweithredu fel tiwtor i chi, maent hefyd yn gynghorwyr gofalgar.
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn bodoli i’ch helpu i ddatblygu eich bywyd a’ch cyfleoedd i gyflawni rhagor. Caiff pob un o’n tiwtoriaid eu dewis yn ofalus, gan sicrhau y byddant yn treulio amser yn datblygu ymddiriedaeth ac empathi at bob dysgwr a addysgir gennym.
Hoffem sicrhau eich bod yn deall sut gallwn ni wella eich bywyd trwy ddysgu, nid beth sydd arnoch ei angen i lwyddo yn ein dosbarthiadau yn unig.
Darpariaeth yn y gymuned
Mae cymunedau yn bwysig. Dyna pam rydym yn cydweithio â chymunedau lleol i sicrhau amgylchedd gwell i’r sawl sy’n byw ynddynt. Rydym yn caru Cymru, ac felly, rydym yn dymuno gwella bywydau’r sawl sy’n byw mewn cymunedau ledled Cymru.
Rydym yn credu ynoch chi
Nid yw’r ffaith nad oes gan rai pobl fynediad at y cyfleoedd a gynigir gan addysg yn golygu nad ydynt yn haeddu’r cyfleoedd hynny. Rydym yn credu y dylai pawb gael cyfle cyfartal i fanteisio yn sgil datblygu eu haddysg. Mae ein cyrsiau cymunedol wedi’u gwasgaru ar draws Cymru, gan gyrraedd y bobl y mae arnynt angen hynny fwyaf.
Cynnig Cyfleoedd i Bawb
Gall dysgu agor drysau at gyfleoedd newydd, trwy gyfrwng swyddi neu weithgareddau. Rydym yn credu’n gryf mewn gwneud ffrindiau, gwella hyder ac addysgu sgiliau i wella bywydau ymhellach.
Rydym yn dymuno cynnig gobaith a meithrin uchelgais trwy ein rhaglenni dysgu yn y gymuned, gan alluogi bob oedolyn i gyflawni eu potensial llawn.
Cofleidio’r Gymraeg
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn dathlu’r Gymraeg ac yn cefnogi a hyrwyddo defnydd y Gymraeg mewn bywyd beunyddiol.
O enw ein sefydliad, i’n cynnig rhagweithiol, rydym yn annog y Gymraeg ym mhob peth a wnawn ac yn ei chofleidio, ac yn ymateb i angen iaith fel elfen anhepgor wrth gynllunio a chyflwyno dysgu.
Rhesymau dros Ddysgu gyda ni
- Rhoi hwb i’ch hyder
- Darganfod sgil newydd
- Agor drysau at gyfleoedd newydd
- Ailennyn diddordeb
- Gwella eich llesiant
- Gwneud llawer o ffrindiau newydd
- Bod yn rhan o’ch cymuned leol
- Datblygu i fod yn fwy egnïol ac allblyg
- Dysgu sgiliau newydd a gwahanol
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni