Polisi preifatrwydd a pholisi ar gwcis

Caiff y wefan hon ei rheoli a’i gweithredu gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym ni’n defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yw’r rheolwr data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 (gan gynnwys y RhDDC y DU) a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (EU 2016/679).

Mae gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales Swyddog Diogelu Data a gellir cysylltu â’r Swyddog os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffordd y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio:

Swyddog Diogelu Data
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7 Iard y Cowper
Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
a / neu
dpo@adultlearning.wales

Pa wybodaeth rydym ni’n ei chasglu a sut rydym yn ei chasglu

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol yn ymwneud â’ch manylion cyswllt, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a chyfeiriad post. Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn eich hysbysu chi am y cyrsiau a allai fod o ddiddordeb i chi, ac i hyrwyddo ein gwasanaethau i chi, yn cynnwys nodwedd Fy Nghyfrif ar ein gwefan. Mae nodwedd Fy Nghyfrif yn cynnwys eich cofnodion dysgu a’ch cofnodion aelodaeth os yn berthnasol, a gellir eu gweld yn Fy Nghyfrif er mwyn gallu cyfeirio atynt yn hwylus. Os yw hynny’n berthnasol, gellir gweld tystysgrifau eich cyrsiau yn Fy Nghyfrif hefyd – mae Fy Nghyfrif yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn. 

Y rheswm cyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth hon yw mae angen eich caniatâd unigol arnom ni er mwyn prosesu eich data at y diben penodol a amlinellir uchod. Am y rheswm hwn, mae angen i chi optio i mewn, yn unol â’r galw.Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data:
Swyddog Diogelu Data 
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7 Iard y Cowper
Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
a / neu
dpo@adultlearning.wales

Pwy sy’n derbyn y wybodaeth?

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw drydydd parti.

Cyfnod Cadw

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth er mwyn eich hysbysu o gyrsiau a fydd o ddiddordeb i chi efallai. Os nad ydych eisiau derbyn y wybodaeth hon, mae’n bosibl y bydd angen i ni gadw eich data er mwyn sicrhau ein bod yn gallu atal unrhyw wybodaeth rhag cael ei hanfon atoch. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon â hynny, gadewch i ni wybod a byddwn yn dileu eich manylion. Os dewiswch i’ch manylion gael eu dileu yn barhaol, mae posibilrwydd y byddwn yn eu caffael nhw eto os byddwch yn cofrestru fel aelod o’r sefydliad, neu os byddwch yn cofrestru ar gwrs Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales arall.

Eich Hawliau Unigol

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol ac, mewn amgylchiadau penodol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i adfer, i ddileu ac i gyfyngu eich data a thynnu eich caniatâd yn ôl.

Anfonwch bob cais neu wrthwynebiad ysgrifenedig at y Swyddog Diogelu Data:
Swyddog Diogelu Data
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7 Iard y Cowper
Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
a / neu
dpo@adultlearning.wales

Eich hawl i Gyflwyno Cwyn gydag Awdurdod Goruchwyliol

Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn am y ffordd mae eich data’n cael ei brosesu i awdurdod goruchwyliol lle rydych yn byw neu’n gweithio, neu yn y man lle digwyddodd y drosedd honedig, os ydych chi o’r farn bod prosesu data personol sy’n gysylltiedig â chi wedi mynd yn groes i ddeddfwriaeth diogelu data.

Er mwyn cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ewch i: https://ico.org.uk/concerns/ neu ffoniwch 0303 123 1113.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Dolenni i wefannau eraill 

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r wefan hon yn unig, felly pan fyddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen ei pholisi preifatrwydd.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch. I gael copi o’r wybodaeth bersonol hon, ysgrifennwch atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod. Mae’n bosibl y codwn ffi fechan am y gwasanaeth hwn.  

Os ydym yn dal gwybodaeth amdanoch, cewch ofyn i ni gywiro neu ddileu gwybodaeth sy’n anghywir yn eich tyb chi.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Rydym yn adolygu’n polisi preifatrwydd yn gyson a byddwn yn gosod unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon.

Sut i gysylltu â ni 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd neu am y wybodaeth bersonol rydym ni’n ei chadw amdanoch, cysylltwch â ni drwy’r post, gan ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol:

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7 Iard y Cowper
Caerdydd
CF10 5NB

Polisi ar gwcis

Beth yw "cwcis"?

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach iawn sy’n cael eu storio ar yriant caled eich cyfrifiadur trwy eich porwr gwe neu ddyfais symudol, pan fyddwch yn ymweld â thudalennau gwe penodol ar ein gwefan. Ni fydd cwcis yn gwneud niwed i’ch cyfrifiadur na’ch dyfais symudol; fodd bynnag, rydym yn deall eu bod yn ymwthiol ym marn rhai pobl.

Sut a pham rydym ni’n defnyddio cwcis ar y wefan hon?

Yn aml, mae cwcis yn cynnwys dynodwr unigryw anhysbys ac yn olrhain a storio’ch dewisiadau fel defnyddiwr, ynghyd â gwybodaeth dechnegol am eich defnydd ar y wefan. Mae cwcis yn ein helpu i wella’n gwefan a chyflwyno gwasanaeth gwell i chi.

Yn benodol, rydym yn defnyddio dulliau dadansoddol (Google Analytics) i gael dealltwriaeth well o’r ffordd caiff ein gwefan ei defnyddio. Mae’r dulliau hyn yn casglu gwybodaeth safonol am gofnodi i’r rhyngrwyd a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr ar ffurf anhysbys. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chynhyrchu gan y cwci am eich defnydd ar y wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti fel Google.  Yna, caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i arfarnu defnydd ymwelwyr ar y wefan a llunio adroddiadau ystadegol am weithgarwch ein gwefan.

Mae rhai o’r cwcis rydym ni’n eu defnyddio yn gwcis sesiwn (h.y. cwcis dros dro sy’n parhau yn eich porwr hyd nes byddwch chi’n gadael y wefan) ac mae eraill yn rhai cyson (h.y. arhosant ar eich porwr am gyfnod tipyn hwy na chwcis sesiwn (er, bydd eu cyfnod yno yn dibynnu ar oes y cwci penodol).


Gadewch adolygiad i ni

Ysgrifennwch adolygiad a gadewch i ni wybod beth yw eich barn am ein cyrsiau!

Ysgrifennwch adolygiad


arrow_upward
×
Mewngofnodi i'ch rhad ac am ddim

MyAccount

Mewngofnodi i MyAccount i gyflymu eich cofrestriad i’ch cwrs nesaf ac i gadw golwg ar eich dysgu gyda ni!

I fewngofnodi, nodwch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig a'ch cyfrinair ac mae'n barod ichi fynd!
Cofiwch, defnyddiwch yr un cyfeiriad e-bost i fewngofnodi bob tro y byddwch angen mynediad i'ch MyAccount.

Heb gofrestru? Cofrestrwch yma
Angen Cymorth Mewngofnodi?