Dysgu heb straen
Weithiau, gall astudio achosi straen. Rydym yn dymuno sicrhau y bydd yn brofiad mor hwylus ag y bo modd i’n dysgwyr. Dyna pam rydym wedi disgrifio rhai o’r dewisiadau cymorth isod a all eich helpu i ddysgu gyda ni.
Ein Llawlyfr i Ddysgwyr
Mae’r Llawlyfr i Ddysgwyr yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a all fod yn ofynnol pan fyddwch chi’n mynychu cwrs. Fodd bynnag, os na allwch chi ganfod y wybodaeth mae arnoch chi ei hangen yn y llawlyfr, cysylltwch â ni.
Ffoniwch ni ar 03300 580 845
Anfonwch neges destun ar 07715 904 304
Neu e-bostiwch: learnerservices@adultlearning.wales
Mae copïau papur ar gael yn eich swyddfa ranbarthol a gan diwtor eich cwrs.
Cyngor ynghylch Astudio
Rydym am i chi gael profiad cadarnhaol a chael cymaint â phosibl allan o'ch cwrs.
Gallwch ddefnyddio sawl dull i gael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Mae ein holl Swyddogion Cyflenwi Cwricwlwm yn brofiadol a gallant eich cynghori ynghylch y cyrsiau sydd ar gael yn eich ardal. Yn ychwanegol, gall ein Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm eich cynorthwyo i nodi llwybr dilyniant priodol i’ch helpu i gyflawni eich nod. Os oes gennych gwestiwn sydd ddim yn ymwneud â darparu cyrsiau, gallwch chi gysylltu â Gwasanaethau i Ddysgwyr i gael cymorth. Byddem yn falch o gael helpu neu eich cynorthwyo i gysylltu â rhywun a all gynnig ateb i chi.
Ffoniwch ni ar 03300 580 845
Anfonwch neges destun ar 07715 904 304
Neu e-bostiwch: learnerservices@adultlearning.wales
Datblygiad eich Gyrfa
Mae Gyrfa Cymru yn darparu llawer iawn o wybodaeth am addysg a chyrsiau, gwaith a phrentisiaethau, yn ogystal â gwasanaeth chwilio am swyddi sy’n caniatáu i chi chwilio ac ymgeisio am swyddi a phrentisiaethau ledled Cymru.
Sgwrsiwch â rhywun
Os ydych chi’n poeni am unrhyw agwedd o’ch cwrs ac yn dymuno trafod pethau yn gyfrinachol â rhywun, cofiwch gysylltu, rydym ni’n barod i wrando.
Ffoniwch ni ar 03300 580 845
Anfonwch neges destun ar 07715 904 304
Neu e-bostiwch: learnerservices@adultlearning.wales
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, tiwtor, neu bartner – beth bynnag y dymunwch chi! Byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’n gwaith.
Cysylltwch â ni